0

applicants

Junior Interaction Designer

Full-time Welsh Government in Cardiff

About the role

We're looking for an experienced Junior Interaction Designer to fit into our growing digital team.

As a Junior Interaction Designer, you’ll tackle complex tasks and transform them into intuitive, accessible, and easy-to-use designs from first-time users to experts. What you do will make it easier for users to make the most of our products and services. So, no pressure then.

Most of the time, you’ll be part of an agile delivery team working on exciting projects to improve the Welsh Government’s digital information and services. You’ll have your own work to get on with but also work closely with the rest of the team.

You’ll be completely familiar with taking complex user needs and transforming them into intuitive, accessible and easy-to-use designs. To do this you’ll work with designers, researchers, developers and product owners throughout the design process—from creating user flows and wireframes to building user interface mock ups and prototypes. You’ll also be a bit of an expert with design and UX tools such as Sketch, Axure, Invision, Realtimeboard/Miro and Adobe Creative Suite.

If you have a degree in Design (e.g., interaction, UX, web, graphic, visual communications, product, industrial), HCI, CS, or a related field, that's a welcome bonus, but isn’t a requirement for the role.

We’ll give you the latest kit and opportunities to learn and develop your skills through training and conferences. We work closely with colleagues from the UK Government digital service too.

This role is based in our Cardiff office which offers many amenities and has great public transport links.

We offer favourable terms and conditions, which include:

  • Salary of up to £32,900 for exceptional candidates
  • 31 days holiday (plus 10 public and privilege holidays)
  • Permanent position
  • Flexible working
  • Cycle to Work Scheme
  • Childcare Vouchers Scheme
  • Membership of Civil Service Pension Scheme

How to apply

All you need to do is fill in our online application with some personal details, attach your CV, along with a personal statement covering the job requirements and telling us why you'd be a good fit.

Just so you know, we only accept applications directly from candidates (no agencies sorry), and we are an Equal Opportunities Employer and a Disability Confident Leader. We also keep successful candidate details for 12 months after we’ve filled the role should any further vacancies become available.

By the way, if you have questions about the job or how to apply then feel free to get in touch - [email protected]


Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn chwilio am Is-ddylunydd Rhyngweithio profiadol i fod yn rhan o'n tîm digidol sy'n tyfu.

Fel Is-ddylunydd Rhyngweithio, byddwch yn cyflawni tasgau cymhleth ac yn eu trawsnewid yn ddyluniadau sy'n hawdd eu deall a'u defnyddio, i bobl a fydd yn eu defnyddio am y tro cyntaf ac arbenigwyr. Bydd yr hyn rydych yn ei wneud yn helpu defnyddwyr i wneud y mwyaf o'n cynnyrch a'n gwasanaethau. Dim pwysau felly.

Bydd y rhan fwyaf o'ch amser yn cael ei dreulio yn gweithio mewn tîm cyflenwi hyblyg yn gweithio ar brosiectau cyffrous i wella gwybodaeth a gwasanaethau digidol Llywodraeth Cymru. Bydd gennych eich gwaith eich hun ond byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda gweddill y tîm.

Byddwch yn gyfarwydd ag ystyried anghenion cymhleth defnyddwyr a'u trawsnewid yn ddyluniadau hawdd eu deall a'u defnyddio. I wneud hyn byddwch yn gweithio gyda dylunwyr, ymchwilwyr, datblygwyr a pherchnogion cynnyrch gydol y broses ddylunio — o greu llifau defnyddwyr a chynlluniau amlinellol i adeiladu rhyngwynebau enghreifftiol a phrototeipiau. Byddwch hefyd yn dipyn o arbenigwr ar becynnau dylunio ac UX fel Sketch, Axure, Invision, Realtimeboard/Miro ac Adobe Creative Suite.

Os oes gennych radd mewn Dylunio (ee rhyngweithio, UX, y we, graffeg, cyfathrebu gweledol, cynnyrch, diwydiannol), rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI), cyfrifiadureg, neu faes cysylltiedig, mae hynny'n fonws, ond nid yw'n ofynnol ar gyfer y swydd.

Byddwn yn rhoi'r offer diweddaraf ichi a chyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau drwy hyfforddiant a chynadleddau. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o wasanaeth digidol Llywodraeth y DU.

Bydd y swydd wedi ei lleoli yn swyddfa Caerdydd, lle sy'n cynnig llawer o gyfleusterau a chysylltiadau trafnidiaeth gwych.

Rydym yn cynnig telerau ac amodau ffafriol, sy'n cynnwys:

  • Cyflog o hyd at £32,900 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol
  • 31 o ddiwrnodau o wyliau (yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint)
  • Swydd barhaol
  • Gweithio'n Hyblyg
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Cynllun Talebau Gofal Plant
  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Sut i wneud cais

Y cyfan sy'n rhaid ichi ei wneud yw llenwi ein ffurflen gais ar-lein gan roi rhai manylion personol, ac amgáu eich CV, yn ogystal â datganiad personol sy’n bodloni gofynion y swydd a dweud wrthym pam y byddech chi’n addas ar gyfer y swydd.

Dylem egluro hefyd mai dim ond ceisiadau yn syth oddi wrth ymgeiswyr yr ydym yn eu derbyn (dim asiantaethau, mae'n ddrwg gennym am hynny), ac rydym yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym hefyd yn cadw manylion ymgeiswyr llwyddiannus am 12 mis ar ôl inni benodi i’r swydd oherwydd gallai rhagor o swyddi gwag godi.

Gyda llaw, os oes gennych gwestiynau am y swydd neu sut i wneud cais cofiwch gysylltu â ni - [email protected]


Warning! This job was posted 4 years ago. Please consider this when applying.


« Go back to category
Published at 02-07-2019
Viewed: 3348 times