applicants
Dylunydd Iau
Rondo Media | Galactig in Caernarfon
Oes gennych chi bortffolio trawiadol ac eisiau ymuno â thîm sy’n tyfu mewn adran ddigidol yng Nghaernarfon? Byddwch yn gweithio ar ystod eang o brosiectau amlgyfrwng i deledu, symudol a’r we mewn awyrgylch sy’n annog creadigrwydd.
• Graddedig neu 1+ o flynyddoedd o brofiad dylunio rhyngweithiol
• Wedi cael peth hyfforddiant dylunio ffurfiol
• Cyfrannwr cyflym ac effeithlon i brosiectau dylunio
• Portffolio cryf gyda dyluniadau amrywiol sy’n dangos angerdd tuag at ddylunio
• Dealltwriaeth o ddylunio rhyngweithiol
• Dealltwriaeth o ryngweithio, y we, a hanfodion pensaernïaeth gwybodaeth, hierarchaeth a gosodiad
• Brwdfrydig a threfnus
• Ymroddedig ac atebol
• Sylw gofalus i fanylion
• Awyddus i gydweithio ar aml ddisgyblaethau gydag aelodau’r tîm ar bob lefel
• Y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm
• Gallu cyfathrebu a chydgysylltu â disgyblaethau eraill yn effeithiol er mwyn sicrhau dyluniad gweledol sy’n cyfathrebu’r neges a ddymunir
• Gwybodaeth ymarferol gadarn o Adobe Creative Suite, gan gynnwys Photoshop, Illustrator a InDesign ac yn gyfarwydd â After Effects
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Am ffurflen gais cysylltwch â Liz Lewis ar 01286 675722 neu e-bostio [email protected]
The above advert is for the post of Junior Designer for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Viewed: 2668 times